=== Gwirydd Sillafu Cymraeg === Contributors: stanno Tags: spelling, grammar, welsh, sillafu, gramadeg, cymraeg Requires at least: 5.0 Tested up to: 5.6.2 Requires PHP: 5.6 Stable tag: trunk License: GPLv2 or later License URI: https://www.gnu.org/licenses/gpl-2.0.html Gwirio sillafu a gramadeg gydag adnodd Cysill Prifysgol Bangor. Welsh-language spelling and grammar checker. == Description == Dangoswch awgrymiadau sillafu a gramadeg wrth gyhoeddi yn y Gymraeg gyda WordPress. Datblygwyd yr ategyn hwn ar gyfer [gwasanaeth newyddion a materion cyfoes Golwg360](https://golwg.360.cymru) a [chynllun cyhoeddi cymunedol Bro360](https://bro.360.cymru) gan [Iwan Standley](https://stanno.cymru) ar ran [Golwg](https://golwg.cymru). Mae’n defnyddio’r gwasanaeth Cysill Ar-lein a ddarperir gan [Brifysgol Bangor](https://www.bangor.ac.uk/canolfanbedwyr), er mwyn cynnig cywiriadau a gwelliannau wrth i chi ysgrifennu cofnodion o fewn golygydd WordPress. Bydd angen i chi [gofrestru i greu cyfrif am ddim](https://api.techiaith.org/cy/account/signup/) er mwyn defnyddio’r gwasanaeth (mae rhagor o fanylion yn yr ategyn). Mae hefyd yn cynnig ffordd hawdd o osod toeon bach ac acenion eraill yn eich cofnod. Mae **Golwg** yn [falch o rannu’r adnodd hwn](https://bro.360.cymru/2021/gwirydd-sillafu-gramadeg-cymraeg/) gyda’r gymuned gyhoeddi Cymraeg. Mae croeso i chi [gynnig gwelliannau ac ailddefnyddio’r cod](https://gitlab.com/golwg/gwirydd). *This Welsh-language spelling and grammar checker is provided by **Golwg** using Bangor University’s Cysill API.* == Frequently Asked Questions == = Ydi’r gwirydd yn gweithio gyda HTML a thestun wedi ei fformatio? = Ydi, os yw’r fformatio’n weddol syml. = Ydi’r gwirydd yn gweithio gyda’r golygydd blociau? = Ar hyn o bryd, mae’r gwirydd yn gweithio gyda’r golygydd clasurol, a blociau clasurol o fewn y golygydd blociau. Os ydych chi’n defnyddio’r golygydd blociau yn rheolaidd, ac am wirio testun yn y blociau sylfaenol (hynny yw, nid yr un clasurol), rhowch wybod i ni—byddai’n ddiddorol gwybod os oes galw am hyn. = Ydi’r gwirydd yn gweithio gyda rhwydwaith WordPress aml-safle? = Ydi. Gallwch fywiogi’r ategyn ar lefel y rhwydwaith, yna gosod yr allwedd API unwaith ar gyfer yr holl safleoedd yn y gosodiadau rhwydwaith. Neu, mae modd bywiogi‘r ategyn ar lefel safleoedd unigol a gosod allweddau API gwahanol iddynt. = Sut ydw i’n cofrestru i dderbyn allwedd API? = Er mwyn defnyddio’r adnodd sillafu a gramadeg, bydd angen i chi greu [cyfrif ar wefan Porth Technolegau Iaith](https://api.techiaith.org/cy/account/signup/) ac yna creu [allwedd API ar gyfer y gwasanaeth Cysill Ar-lein](https://api.techiaith.org/cy/apis/cysillapi/). Awgrymwn i chi *beidio* â dewis yr opsiwn “Bydd yr allwedd API yn cael ei defnyddio ar wefan” gan nad yw’r cyfyngiad hwn yn gweithio gyda phob porydd. = Ydi fy ngwybodaeth bersonol yn ddiogel? = Nodwch y wybodaeth bwysig hon ynglŷn â gwasanaeth Cysill Ar-lein: > Hoffem i chi fod yn ymwybodol, wrth i chi ddefnyddio Cysill Ar-lein, y bydd eich testunau yn cael eu danfon at ein gweinydd(ion) er mwyn gwirio'r sillafu a'r gramadeg. Mae Cysill Ar-lein yn cadw copïau o destunau sy'n cael eu gyrru ato er mwyn eu cynnwys o fewn corpws o destunau. Bydd y corpws hwnnw yn cyfrannu at ymchwil academaidd, gwelliannau yn Cysill a datblygiad technolegau iaith yn y dyfodol. Peidiwch â rhoi unrhyw ddeunydd cyfrinachol neu sensitif i mewn. == Screenshots == 1. Mae’r ategyn yn ychwanegu dau fotwm i’r golygydd cofnodion. 2. Defnyddiwch y botwm gwirydd i ddangos awgrymiadau sillafu a gramadeg. 3. Mae hefyd yn cynnig ffordd syml o osod llythrennau gyda thoeon bach ac acenion eraill. 4. Gallwch ddefnyddio’r gwirydd o fewn y bloc clasurol yn y golygydd blociau newydd. == Changelog == = 1.3 = * Mân-newidiadau. = 1.2 = * Y fersiwn gyhoeddus gyntaf.